Cyn Carolyn Thomas
Ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru
Rydw i’n gofyn am eich cefnogaeth i gael bod yn ymgeisydd Llafur arweiniol ar gyfer Rhestr Ranbarthol Gogledd Cymru yn etholiadau Senedd y flwyddyn nesaf. Rydw i'n rhedeg am fy mod yn credu bod gan bawb hawl i gyflog teg ac amodau gwaith diogel, GIG cryf sydd yno pan fydd ei angen arnom, cartref diogel a fforddiadwy, a system addysg sy'n rhoi cyfle teg a chyfartal i bawb, pwy bynnag ydyn nhw yw a ble bynnag maen’t yn byw. Nid trwy hyd a lledrith mae’r pethau hyn yn digwydd, mae Llafur ac Undebau Llafur wedi ymladd drostyn nhw a'u hennill o'r blaen, nawr mae angen i ni ymladd i'w hachub rhag cyni Torïaidd.
Fel gweithiwr pôst, rwyf wedi gweld beth mae preifateiddio wedi'i gwneud i'n gwasanaethau cyhoeddus ar ôl gwerthiant y Pôst Brenhinol. Rydw i wedi magu teulu trwy ddegawd o doriadau mewn gwasanaethau ac wedi brwydro fel rhan o fy nghymuned wledig fach, am fo’r gwasanaethau yr ydym ni dibynnu arnynt wedi cael eu hacio i ffwrdd. Mae Gogledd Cymru wedi dioddef yn anghymesur dros y deng mlynedd diwethaf dan lywodraeth y Torïaid yn San Steffan. Fy mlaenoriaeth fyddai ymladd dros y cysylltedd sydd ei angen arnom; trwy drafnidiaeth cyhoeddus a rhyngrwyd band-eang gweddus mewn pentrefi a threfi ledled ein rhanbarth.
Rwyf i, fel yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghyngor Sir y Fflint, wedi pwyso i alluogu ein cynghorau i redeg eu bysiau eu hunain eto; trafnidiaeth cyhoeddus i’r bobl, nid er elw. Pleidlais drostaf yw pleidlais i fynd â'r frwydr hon i Fae Caerdydd. Mae angen cyllid teg arnom hefyd, mae cynghorau Gogledd Cymru yn gwneud yn wael allan o gyllid Caerdydd, ac mae hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau. Mae angen llais cryf ar Ogledd Cymru i hysbysu’r problemau sydd ar draws ein rhanbarth - yn enwedig lle nad oes gennym MS nac AS Llafur
Rwyf wedi ymrwymo i roi ein gwerthoedd Llafur a'm hegwyddorion sosialaidd ar waith ac mae gennyf hanes cryf o wneud hynny - rydw i'n gobeithio y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth.
Rwyf wedi ymrwymo i roi gwerthoedd Llafur a f’egwyddorion sosialaidd ar waith.
Rwy'n angerddol dros Gogledd Cymru, ei amgylchedd naturiol ac adeiledig, ei photensial a’i phobl; a byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr Llafur, preswylwyr, awdurdodau cyhoeddus, busnesau ac undebau i'w ailadeiladu a'i dyfu, ar ôl y pandemig ac ar ôl Brexit
Byddaf yn ymladd i amddiffyn ein diwydiannau hanfodol yng Ngogledd Cymru.
Byddaf yn gweithio gyda bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Byddaf yn ymgyrchu dros fynediad at drafnidiaeth integredig a chysylltedd band eang gweddus ac yn sicrhau nad yw ein cymunedau gwledig yn dod yn ynysig.
Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn blynyddoedd cynnar ac ymyriadau cynnar cyn i faterion pryder a iechyd meddwl dyfu, mae'n hanfodol ar gyfer lles cenedlaethau'r dyfodol
Mae'n hanfodol fod Llafur yn parhau gyda'r cynnydd i symud BCUHB, ein bwrdd iechyd, allan o fesurau arbennig.
Byddaf yn ymladd dros degwch a chydraddoldeb i bawb wrth i gyflogau sy’n marweiddio gael eu hymestyn i gwrdd â biliau tanwydd cynyddol a chostau byw.